ALTE - The Association of Language Testers of Europe
 


Home

About ALTE

ALTE Members

Membership

Affiliates

Events

Framework

QA

Projects

Resources




Site Search :



DG: Mynediad - A2 / ALTE 1

Mae 5 cydran:

Gwrando

i. Hysbysiadau - rhaid i ymgeiswyr lenwi grid gwybodaeth ar sail rhestr o gyhoeddiadau am ddigwyddiadau cyffredin, sydd wedi ei recordio ymlaen llaw.
ii. Deialog - rhaid i ymgeiswyr ddewis y symbol priodol ar sail gwybodaeth yn y ddeialog (aml-ddewis).

Hyd: tua 20 munud

Siarad

Mae tair rhan orfodol:

  1. Ynganu - rhoddir paragraff byr i ymgeiswyr ei baratoi 10 munud cyn y prawf llafar a rhaid iddyn nhw ei ddarllen yn uchel i'r cyfwelydd llafar.
  2. Gofyn cwestiynau - rhaid i ymgeiswyr ofyn cwestiynau i'r cyfwelydd llafar ar sail sbardunau gweledol, sef cardiau fflach.
  3. Ymateb i gwestiynau - rhaid i ymgeiswyr ateb cwestiynau o restr benodol a nodir yn y fanyleb.

Hyd: tua 10 munud

Darllen

Dwy dasg orfodol:

  1. Arwyddion - rhaid i ymgeiswyr ddewis y cyd-destun priodol i arwydd cyffredin (aml-ddewis).
  2. Deialog - rhaid i ymgeiswyr lenwi grid gwybodaeth ar sail deialog ar destun cyfarwydd.

Cymhwysedd Strwythurol

Un dasg orfodol:

  1. Llenwi bylchau - rhaid i ymgeiswyr lenwi bylchau (e.e. geirfaol neu gystrawennol), mewn brawddegau gwahanol.
    Mae'r cwestiwn llenwi bylchau yn gynwysiedig yn y Prawf Darllen.

Hyd: 30 munud

Ysgrifennu

Dwy dasg orfodol:

  1. Cerdyn post - rhaid i ymgeiswyr ysgrifennu cerdyn post yn cynnwys sbardunau penodol.
  2. Portread - rhaid i ymgeiswyr ysgrifennu brawddegau gwahanol 3ydd person ar sail diagram gyda symbolau'n disgrifio person arall.

Hyd: 30 munud

Pwysoli'r Cydrannau:

Gwrando 20%, Siarad 50%, Darllen 15%, Cymhwysedd Strwythurol 5%, Ysgrifennu 10%.

Canlyniadau

Ni ddyfernir graddau ar y lefel hon. Anfonir canlyniadau unigol am bob prawf a dyfernir Llwyddo / Methu i ymgeiswyr. Y trothwy llwyddo yw 50% o'r cyfanswm.