DG: Canolradd - B2 / ALTE 3
Mae 5 cydran:
Gwrando
Mae dau gwestiwn gorfodol:
1. |
Deialog - rhaid i ymgeiswyr ateb cwestiynau ar sail deialog
ar recordiwyd ymlaen llaw. |
2. |
Bwletin newyddion - rhaid i ymgeiswyr ateb cwestiynau ar
sail bwletin newyddion a recordiwyd ymlaen llaw. |
Hyd: tua 50 munud
Siarad
Mae tair rhan orfodol:
- Tasg Gyfathrebol - mae 20 munud gan ymgeiswyr
i baratoi tasg gyfathrebol i'w pherfformio gyda'r cyfwelydd
llafar.
Mae'r dasg yn para am tua 5 munud.
- Cyfweliad llafar - rhaid i ymgeiswyr ateb cwestiynau
ac ymhelaethu ynghylch eu cefndir, eu diddordebau, eu gwaith
ac ati am tua 15 munud.
- iii. Tasg i'w recordio ymlaen llaw - disgwylir
i ymgeiswyr recordio sgwrs â siaradwr rhugl / iaith gyntaf
yn para am tua 5 munud.
Hyd y Prawf Llafar - tua 20 munud.
Darllen
Dwy dasg orfodol:
- Erthygl - rhaid ymgeiswyr ateb cwestiynau ar
sail erthygl o bapur neu gylchgrawn Cymraeg.
- Hysbyseb - rhaid i ymgeiswyr ateb cwestiynau
ar sail hysbyseb ddilys.
Cymhwysedd Strwythurol
Un dasg orfodol:
- Llenwi bylchau - rhaid i ymgeiswyr lenwi bylchau
(gramadegol yn bennaf) mewn testun.
Mae'r cwestiwn llenwi bylchau yn gynwysiedig o fewn y Prawf Darllen.
Hyd: 50 munud
Ysgrifennu
Dwy dasg orfodol:
- Llenwi ffurflen - rhaid i ymgeiswyr lenwi
ffurflen fanwl neu holiadur yn gofyn am tua 150 o eiriau.
- Ysgrifennu llythyr - rhaid i ymgeiswyr ysgrifennu
llythyr ar sail sefyllfa neu gyd-destun penodol yn gofyn am
tua 100 o eiriau.
Hyd: 75 munud
Pwysoli'r cydrannau
Gwrando 10%, Siarad 50%, Tasg wedi ei recordio ymlaen llaw 10%,
Darllen 10%, Cymhwysedd Strwythurol 5%, Ysgrifennu 15%.
Canlyniadau
Dyfernir graddau A-C (Llwyddo) D (methu agos) a Diddosbarth.
Anfonir canlyniadau pob prawf unigol at yr ymgeiswyr. Y trothwy
llwyddo yw 50% o'r cyfanswm.
|