Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC)
Welsh Joint Education Committee (WJEC)

Cafodd CBAC ei sefydlu ym 1948, yn wreiddiol fel consortiwm o
awdurdodau addysg lleol. Mae erbyn hyn wedi ymsefydlu fel prif
ddarparwr gwasanaethau addysgol yng Nghymru, yn eiddo i'r 22 o
awdurdodau unedol ac yn cael ei reoli ganddynt. Mae'r gwasanaethau
a ddarperir yn cynnwys: arholiadau i ysgolion, hyfforddi tiwtoriaid
/ athrawon a chynhyrchu deunyddiau dysgu / addysgu Cymraeg.
Mae CBAC yn darparu 4 cymhwyster yn benodol ar gyfer oedolion
sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith, mewn cyfres o'r enw 'Defnyddio'r
Gymraeg'. Mae'r 4 wedi eu hachredu gan gorff rheoleiddio'r Cynulliad,
sef ACCAC, ac yn gweithredu'n unol â Chod Ymarfer ACCAC.
Yn dechrau o'r haen isaf, dyma nhw:
Defnyddio'r Gymraeg: Mynediad - A2 (ALTE 1)
Defnyddio'r Gymraeg: Sylfaen - B1 (ALTE2)
Defnyddio'r Gymraeg: Canolradd - B2 (ALTE 3)
Defnyddio'r Gymraeg: Uwch - C1 (ALTE 4)
* Mae'r lefelau ALTE / CEFR a nodir eto i'w cadarnhau.
Mae'r pedwar cymhwyster yn profi gallu'r ymgeiswyr yn y pedair
sgìl, gyda phwyslais ar y sgiliau siarad / gwrando. Y prif
resymau a roddir gan ddysgwyr dros fynychu cyrsiau yw: a. integreiddio
â'r gymuned Gymraeg ei hiaith, a b. ar gyfer ei defnyddio
yn y gweithle. Felly, mae'r pwyslais yn yr arholiadau a ddarperir
ar ddefnyddio'r Gymraeg, ei siarad a'i deall, mewn cyd-destunau
cymdeithasol a galwedigaethol. Mae hyn yn adlewyrchu arfer mewn
cyrsiau Cymraeg i Oedolion.
Cafodd y ddwy lefel gyntaf eu peilota'n llwyddiannus mewn canolfannau
yng Ngogledd a De Cymru yn Ionawr a Mawrth 2003 a chânt
eu cyflwyno ar gyfer eu hachredu'n llawn yn Rhagfyr 2003. Gall
ymgeiswyr sefyll yr arholiadau mewn canolfannau ar draws Cymru
wedi eu trefnu mewn cydweithrediad â darparwyr cyrsiau lleol.
Mae arholiad uwch 'Hyfedredd' (C2 / ALTE 5) yn cael ei ddatblygu.
Mae manylebau (yn cynnwys papurau enghreifftiol), llyfrynnau
i ymgeiswyr, cyn-bapurau (gyda chasetiau ar gyfer y prawf gwrando)
ar gael ar gyfer pob cymhwyster. Mae deunydd arholi a rhagor o
wybodaeth ar gael ar wefan CBAC.
Am ragor o wybodaeth ynghylch yr arholiadau Cymraeg i Oedolion,
cysylltwch â
Dr Emyr Davies
Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion
CBAC
245 Rhodfa'r Gorllewin
CAERDYDD
CF5 2YX
Cymru
UK
Ffôn 029 2026 5009
Ffacs 029 2057 5995
E-bost emyr.davies@cbac.co.uk
Gwefan www.wjec.co.uk
|