DG: Mynediad - A2 / ALTE 1
Mae 5 cydran:
Gwrando
i. Hysbysiadau - rhaid i ymgeiswyr lenwi grid gwybodaeth ar sail
rhestr o gyhoeddiadau am ddigwyddiadau cyffredin, sydd wedi ei
recordio ymlaen llaw.
ii. Deialog - rhaid i ymgeiswyr ddewis y symbol priodol ar sail
gwybodaeth yn y ddeialog (aml-ddewis).
Hyd: tua 20 munud
Siarad
Mae tair rhan orfodol:
- Ynganu - rhoddir paragraff byr i ymgeiswyr ei
baratoi 10 munud cyn y prawf llafar a rhaid iddyn nhw ei ddarllen
yn uchel i'r cyfwelydd llafar.
- Gofyn cwestiynau - rhaid i ymgeiswyr ofyn cwestiynau
i'r cyfwelydd llafar ar sail sbardunau gweledol, sef cardiau
fflach.
- Ymateb i gwestiynau - rhaid i ymgeiswyr ateb
cwestiynau o restr benodol a nodir yn y fanyleb.
Hyd: tua 10 munud
Darllen
Dwy dasg orfodol:
- Arwyddion - rhaid i ymgeiswyr ddewis y cyd-destun
priodol i arwydd cyffredin (aml-ddewis).
- Deialog - rhaid i ymgeiswyr lenwi grid gwybodaeth
ar sail deialog ar destun cyfarwydd.
Cymhwysedd Strwythurol
Un dasg orfodol:
- Llenwi bylchau - rhaid i ymgeiswyr lenwi bylchau
(e.e. geirfaol neu gystrawennol), mewn brawddegau gwahanol.
Mae'r cwestiwn llenwi bylchau yn gynwysiedig yn y Prawf Darllen.
Hyd: 30 munud
Ysgrifennu
Dwy dasg orfodol:
- Cerdyn post - rhaid i ymgeiswyr ysgrifennu cerdyn
post yn cynnwys sbardunau penodol.
- Portread - rhaid i ymgeiswyr ysgrifennu brawddegau
gwahanol 3ydd person ar sail diagram gyda symbolau'n disgrifio
person arall.
Hyd: 30 munud
Pwysoli'r Cydrannau:
Gwrando 20%, Siarad 50%, Darllen 15%, Cymhwysedd Strwythurol
5%, Ysgrifennu 10%.
Canlyniadau
Ni ddyfernir graddau ar y lefel hon. Anfonir canlyniadau unigol
am bob prawf a dyfernir Llwyddo / Methu i ymgeiswyr. Y trothwy
llwyddo yw 50% o'r cyfanswm.
|