DG: Sylfaen - B1 / ALTE 2
Mae 5 cydran:
Gwrando
1. |
Negeseuon ffôn - rhaid i ymgeiswyr lenwi grid gwybodaeth
ar sail rhestr o negeseuon ffôn wedi eu recordio ymlaen
llaw. |
2. |
Bwletin tywydd - rhaid i ymgeiswyr ddewis y symbol priodol
ar sail gwybodaeth yn y bwletin tywydd (aml-ddewis). |
3. |
Deialog - rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen ar sail gwybodaeth
mewn deialog a recordiwyd ymlaen llaw. |
Hyd: tua 30 munud
Siarad
Tair rhan orfodol:
- Cyflwyno Pwnc - rhoddir dewis o destunau i ymgeiswyr
(1 allan o 3) o restr o 11, yn cynnwys pynciau cyffredinol eu
natur. Rhaid iddyn nhw ofyn cwestiynau i'r cyfwelydd llafar
ac ymateb i gwestiynau ar sail y pwnc.
- Ateb cwestiynau - rhaid i ymgeiswyr ateb cwestiynau
o rhrestr benodol a nodir yn y fanyleb.
- Cwestiynau caeëdig - rhaid i ymgeiswyr
ymateb yn gadarnhaol neu'n negyddol drwy ddefnyddio'r 10 ymateb
mwyaf cyffredin i gwestiynau caeëdig.
Hyd: tua 15 munud
Darllen
Dwy dasg orfodol:
- Hysbysebion - rhaid i ymgeiswyr lenwi grid gwybodaeth
ar sail nifer o hysbysebion, e.e. o bapur bro.
- Erthygl - rhaid i ymgeiswyr ateb cwestiynau
ar sail erthygl fer.
Cymhwysedd Strwythurol
Un dasg orfodol:
- Llenwi bylchau - rhaid i ymgeiswyr lenwi'r
bylchau (gramadegol yn bennaf) mewn brawddegau gwahanol.
Mae'r cwestiwn llenwi bylchau yn gynwysiedig o fewn y Prawf Darllen.
Hyd: 40 munud.
Ysgrifennu
Dwy dasg orfodol:
- Nodyn / neges - rhaid i ymgeiswyr ysgrifennu
neges neu nodyn ar sail sbardun neu sefyllfa benodol.
- Dyddiadur / cofnod - rhaid i ymgeiswyr ysgrifennu
dyddiadur neu gofnod o ddigwyddiadau yn y gorffennol.
Hyd: 40 munud
Pwysoli'r cydrannau
Gwrando 20%, Siarad 50%, Darllen 10%, Cymhwysedd Strwythurol
5%, Ysgrifennu 15%.
Canlyniadau
Dyfernir graddau A-C (Llwyddo) D (methu agos) a Diddosbarth.
Anfonir canlyniadau am bob prawf unigol at yr ymgeiswyr. Y trothwy
llwyddo yw 50% o'r cyfanswm.
|