ALTE logo - click for home page
Back to list of ALTE members
 
About Alte Members Framework and Can-Do Quality assurance Projects Events & Information
Welsh

Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) Welsh Joint Education Committee (WJEC)

System Arholi

DG: Mynediad

DG: Sylfaen

DG: Canolradd

DG: Uwch

 

System Arholi

Gosod a Chyn-brofi

1.1 Dethol deunyddiau
Gosodir eitemau prawf gan weithgor sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn. Arweinir y gweithgor gan Gadeirydd y Gweithgor Arholiadau ac mae'n cynnwys y Prif Arholwr ar gyfer pob cymhwyster. Mae aelodau eraill y tîm yn diwtoriaid Cymraeg i Oedolion profiadol, yn cynnwys cyfwelwyr llafar, gydag arbenigedd mewn ysgrifennu eitemau. Gofynnir i aelodau'r gweithgor ddethol deunyddiau o ffynonellau gwahanol, yn cynnwys papurau, cylchgronau, hysbysebion, radio a theledu a deunydd gwreiddiol. Dewisir y deunyddiau ar sail y meini prawf canlynol:

 

  • y sgiliau i'w hasesu
  • cymhlethdod ieithyddol
  • y pwnc dan sylw
  • math o eitem
  • ystyriaethau diwylliannol a thafodieithol

1.2 Ysgrifennu eitemau ar gyfer profion
Ysgrifennir eitemau gan aelodau unigol o'r tîm ac fe'u golygir gan y gweithgor cyfan, y Prif Arholwr a'r Adolygwr allanol. Goruchwylir gosod yr arholiadau gan y Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion. Trafodir pob eitem yn fanwl mewn cyfarfodydd tîm er mwyn safoni cwestiynau arholiad a chadw cysondeb.

1.3 Cyn-brofi
Oherwydd nifer cyfyng yr ymgeiswyr, ni chynhelir cyn-brofion ar y deunyddiau ar hyn o bryd.

2.1 Marcio
Mae pob agwedd ar yr arholiadau'n cael eu marcio'n allanol. Mae pob cyfweliad llafar yn cael ei recordio a'i asesu'n annibynnol. Anfonir y rhain a phapurau arholiad eraill at farcwyr profiadol i'w hasesu yn unol â'r fanyleb ar gyfer pob lefel a chynlluniau marcio a gytunir mewn cyfarfodydd tîm. Anfonir tapiau'r cyfweliadau llafar a phapurau arholiad eraill i'w cymedroli gan y Prif Arholwr ar gyfer pob cymhwyster.

2.2 Hyfforddi
Cynhelir sesiynau cydlynu cyson ar gyfer marcwyr y profion llafar. Darperir hyfforddiant i gyfwelwyr llafar ar gyfer pob lefel gan y Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion. Darperir hyfforddiant mewn swydd i diwtoriaid fel y bo'r angen.

2.3 Gwirio
Anfonir arholiadau drafft i'w hadolygu gan adolygydd allanol yn unol â Chod Ymarfer ACCAC, ac mae'r Prif Arholwyr yn gyfrifol am gymedroli - ailasesir 10% o'r gwaith arholiadol gan y Prif Arholwyr. Cynhelir gwiriadau clerigol er mwyn sicrhau bod y cyfan yn ddibynadwy.

Canlyniadau

Anfonir canlyniadau at bob ymgeisydd unigol tua chwe wythnos ar ôl dyddiad yr arholiad. Maent yn cael y marciau unigol ar gyfer pob cydran. Dyfernir graddau fel a ganlyn:

A, B, C, (Llwyddo) D, Diddosbarth (Methu)

Ar gyfer arholiad lefel Mynediad (A2) dyfernir Llwyddo / Methu i ymgeiswyr, nid graddau.

Anfonir tystysgrifau at bob ymgeisydd unigol tua wyth wythnos wedi dyddiad yr arholiad.

Diogelwch

Rheolir pob cam o'r broses arholi i sicrhau diogelwch. Cedwir papurau 'byw' yn ddiogel ac fe'u hanfonir i'r canolfannau arholi drwy bost arbennig. Rhaid i bob canolfan ddilyn gweithdrefnau llym ar gyfer gweinyddu'r arholiadau a'u cynnal ac mae trefnydd y ganolfan yn gyfrifol am ddiogelwch a dychwelyd y sgriptiau a chyfweliadau ar dâp.

 

Top of the page