ALTE logo - click for home page
Back to list of ALTE members
 
About Alte Members Framework and Can-Do Quality assurance Projects Events & Information
Welsh

Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) Welsh Joint Education Committee (WJEC)

System Arholi

DG: Mynediad

DG: Sylfaen

DG: Canolradd

DG: Uwch

 

DG: Uwch - C1 / ALTE 4

Mae 5 cydran:

Gwrando

Mae dau gwestiwn gorfodol

1. Gwrando - rhaid i ymgeiswyr ateb cwestiynau ar sail deunydd dilys yn cynnwys dau destun. Mae elfennau i'w cymharu yn y cwestiynau.
2. Fideo - rhaid i ymgeiswyr ateb cwestiynau ar sail deunydd dilys yn ymwneud â chyflwyniad ffeithiol.

Hyd: tua 50 munud

Siarad

Tair rhan orfodol:

  1. Trafod Erthygl - rhaid i ymgeiswyr drafod erthygl nodwedd o bapur neu gylchgrawn Cymraeg gyda'r cyfwelydd llafar. Mae 30 munud o amser paratoi a dewis o 3 erthygl wahanol.
  2. Trafod Ffolio - rhaid i gyfwelwyr llafar ofyn cwestiynau ar sail ffolio'r ymgeisydd (gw. isod).
  3. Trafod dau waith llenyddol - rhaid i ymgeiswyr ddewis dau waith llenyddol o restr benodol i'w trafod gyda'r cyfwelydd llafar.

Hyd y Prawf Llafar: tua 45 munud

Ffolio

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffolio o waith ysgrifenedig a llafar yn cynnwys sawl elfen:

  1. 4 darn ffeithiol (yn cynnwys gwaith trafod a hunangofiannol).
  2. Tasg lafar - rhaid i ymgeiswyr recordio sgwrs gyda siaradwr rhugl.
  3. Project - naill ai (a) Project Ymarferol - rhaid i ymgeiswyr dreulio amser mewn amgylchfyd Cymraeg ei iaith, e.e. yn gwneud gwaith gwirfoddol neu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng-Cymraeg a chyflwyno crynodebau o'u profiadau a recordio sgwrs gyda siaradwyr rhugl yn ymwneud â'r project; neu (b) Project Llenyddol - rhaid i ymgeiswyr ysgrifennu adolygiadau o destunau llenyddol (o restr yn y fanyleb) a recordio trafodaeth ar ddrama neu ffilm Gymraeg gyda siaradwr rhugl.

Darllen

Dwy dasg orfodol:

  1. 2 erthygl - rhaid i ymgeiswyr ateb cwestiynau ar erthyglau ffeithiol, yn cynnwys elfennau i'w cymharu.
  2. Darn llenyddol - rhaid i ymgeiswyr ateb cwestiynau ar destun llenyddol nad ydynt wedi ei weld o'r blaen.

Cymhwysedd Strwythurol

Un dasg orfodol:

  1. Llenwi bylchau - rhaid i ymgeiswyr lenwi bylchau (gramadegol, cystrawennol, priod-ddulliau a chyfleoliadau) mewn testun.

Mae'r prawf llenwi bylchau yn gynwysiedig yn y Prawf Darllen.

Hyd: 120 munud.

Ysgrifennu

Tair tasg orfodol:

  1. Darn cofnodol - rhaid ymgeiswyr ysgrifennu adroddiad ar sail sbardunau neu sefyllfaoedd penodol.
  2. Llythyr Ffurfiol - rhaid i ymgeiswyr ysgrifennu llythyr yn y cywair ffurfiol ar sail sbardunau neu sefyllfaoedd penodol.
  3. Darn Hunanfynegiannol - rhoddir dewis o destunau traethawd i ymgeiswyr - gall y rhain fod yn trafod neu'n disgrifio.

Hyd: 150 munud

Pwysoli'r cydrannau

Gwrando 10%, Siarad 44%, Darllen 20%, Cymhwysedd Strwythurol 5%, Ysgrifennu 21%

Canlyniadau

Dyfernir graddau A-C (Llwyddo) D (methu agos) a Diddosbarth (Methu). Anfonir canlyniadau unigol ar gyfer pob prawf at ymgeiswyr. Y trothwy llwyddo yw 50% o'r cyfanswm.

 

Top of the page